EquiCymru - yn darparu pasbort ar gyfer ceffyl sy' heb pedigri, wedi ei fagu neu ei gadw yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r swyddfa pasbort yn atebol i Lywodraeth Cymru dan adain Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig.
Gwasanaethau EquiCymru
Darperir Pasbort yn unol â deddfwriaeth a rheolau Llywodraeth Cymru a DEFRA. Mae Pasbort EquiCymru yn ddogfen ar gyfer 'adnabod yn unig'.
Mae'r manylion canlynol wedi eu cynnwys yn y Pasbort;
-
Manylion y Perchennog
-
Manylion yr Anifail
-
Marciau a Silwét yr anifail
-
Rhif y meicrosglodyn a'u safle o fewn y corff.
Rhaid i'r pasbort gofnodi manylion y perchennog cyfredol.
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i drosglwyddo perchnogaeth pob ceffyl o fewn 30 niwrnod ers y pryniant. O beidio a gwneud hyn mi allai'r perchennog newydd dderbyn dirwy hyd at £5,000.
Rhaid i bob cais ar gyfer pasbort sydd wedi ei golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn gael ei gyfleu ar y ffurflen swyddogol.