Pasbort Ceffylau
EquiCymru
Mae EquiCymru - yn darparu pasbort 'adnabod yn unig' ar gyfer anifeiliaid sy' heb pedigri, ac wedi eu magu neu yn cael eu cadw yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r Swyddfa Pasbort yn atebol i Lywodraeth Cymru o dan adain Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig.
Yn unol â'r gyfraith rhaid i bob Ceffyl fod â phasbort cyn ei bod yn chwe mis oed neu cyn 30 Tachwedd ym mlwyddyn ei geni, pa bynnag un sy' gynhara'.
Os oes gennych Geffyl sy'n hÅ·n na hyn heb basbort d'yw hi byth rhy hwyr i wneud. Plis cysylltwch ag EquiCymru ac mi wnawn eich helpu i gydymffurfio.
Pasbort
Darperir pasbort yn unol â deddfwriaeth a rheolau Llywodraeth Cymru a DEFRA. Mae pasbort EquiCymru yn basport 'adnabod yn unig' .
Mae'r pasbort yn cynnwys y manylion canlynol;
-
Manylion y perchennog cyfredol
-
Manylion y ceffyl
-
Marciau a Silwét
-
Rhif y meicrosglodyn a'i safle yn y corff.
Mae'r perchennog yn medru cwblhau darn blaen y cais am basbort, ond rhaid i filfeddyg sydd wedi'i cymhwyso gwblhau cefn y ffurflen gais.
​
Ceisiadau ar gyfer Ebolion
Rhaid cyfleu cais am basbort i ebol cyn eu bod yn chwe mis oed ym mlwyddyn eu geni neu cyn 30 Tachwedd pa bynnag un sy' gynhara.
Rhaid i bob ebol sy'n trafaelu heb ei fam neu fam-faeth, sy'n cael ei werth mewn arwerthiant, neu'n cael ei yrru i ganolfan ddifa fod â phasbort cyn eu cario. Rhaid i bob ebol sy'n cael ei werthu wrth dored y gaseg yn arwerthiant fod â phasbort.
​
Ceisiadau ar gyfer anifeiliaid hÅ·n
Mi fydd pob pasbort ar gyfer ceffyl lle mae'r cais am basbort wedi ei gyflwyno 12 mis neu fwy ers ei eni yn derbyn pasbort sy'n nodi ei fod yn Ddyblyg. Nodir hefyd na fydd yr anifail yn cayn rhan o'r gadwyn fwyd gan nad oes cofnod manwl o feddygyniaethau a ddefnyddiwyd ar gael.
​
Trosglwyddo Perchnogaeth
Rhaid i bob pasbort nodi manylion y perchennog cyfredol.
Yn unol â'r gyfraith rhaid trosglwyddo perchnogaeth anifail cyn pen 30 niwrnod ers y pryniant. Os na drosglwyddir y berchnogaeth mi fedrai'r perchennog newydd wynebu dirwy o hyd at £5,000.
​
Meicrosglodyn
Ers 12 Chwefror 2021 yng Nghymru, 28 Mawrth 2021 yn yr Alban a 1 Hydref , 2021 yn Lloegr, rhaid i bob ceffyl,merlyn neu asyn fod wedi eu meicrosglodi. Nid ydym yn derbyn cais am basport lle nad oes meicrosglodyn wedi ei osod a'i gofnodi ar y ffurflen gan Filfeddyg.
​
Postio
Rydym yn annog i bawb sy'n gyrru pasbort neu ffurflen gais atom i swyddfa EquiCymru wneud hynny gyda phost dosbarthu wedi ei recordio. Rydym yn eich annog hefyd i dalu am ddosbarthiad sydd wedi ei recordio ar gyfer dychwelyd y pasbort unai drwy gynnwys amlen sydd eisioes wedi ei thalu amdani neu drwy ychwanegu cost y gwasanaeth hynny at eich cyfanswm wrth archebu ar-lein. online.
Prisiau
Cais am Basbort (Pasbort cyntaf) £25
Trosglwyddo perchnogaeth £18
Pasbort Dyblyg (wedi ei ddwyn neu'i golli ) £25
Pasbort wedi ei gyfnewid (wedi ei didfrodi) £18
Diweddaru y record o Feicrosglodyn £5
Manylion Newid Cyfeiriad £5
Gwasanaethau Dewisol
Gwasanaeth brys ( wedi ei gwblhau o fewn dau ddiwrnod ers derbyn y ffurflen wreiddiol. (mae hyn yn ddibynnol ar yr wybodaeth gywir yn cael ei gyfleu) £20 yn ychwanegol i gost y pasbort.
Dosbarthiad wedi ei recordio £3.75
Dosbarthiad arbennig £7.50
Disgownt Aml-basbort os cyflwynir 10 neu fwy o geisiadau ar yr un pryd - £22 yr un. (cysylltwch â'r Swyddfa i dalu er mwyn sicrhau'r arbediad).
Mae'r prisiau yn cynnwys TAW.
Ydych chi yn aelod cyfredol o CMCC? Os yr ydych cysylltwch â Swyddfa'r Gymdeithas i dderbyn 10% o ostyngiad pan yn defnyddio'r gwasanaethu a nodir.
Ffurflenni i'w Lawrwytho
Lawrlwythwch y ffurflenni isod. Os yn well gennych dderbyn copi caled plis cysylltwch â ni ar
07932 659163 neu ebostiwch passports@equicymru.co.uk